Quiltfest 2017
Wrexham Tailor's Quilt Challenge
A challenge was set for members of Region 13 of the Quilters' Guild of the British Isles. They were invited to use this historic quilt as inspiration for an A4 piece of work to be displayed both at Quiltfest and then at The Wrexham Museum.
Victorian tailor, James Williams made a quilt in 1842 which is housed at St Fagans in Cardiff. It is known as the Wrexham Tailor’s Quilt and took over 10 years to make from 4,500 pieces of wool cloth, possibly from military uniforms. It has geometric styles with spirals, leaves hearts and motifs and more which give some wonderful imagery of the world as James Williams saw it.
The Wrexham Tailor’s Quilt was exhibited at Wrexham County Borough Museum between May and November 2017.
With grateful thanks to Wrexham Museum for Welsh translation
Click on image to see in detail
Wrexham Tailor's Quilt Challenge
A challenge was set for members of Region 13 of the Quilters' Guild of the British Isles. They were invited to use this historic quilt as inspiration for an A4 piece of work to be displayed both at Quiltfest and then at The Wrexham Museum.
Victorian tailor, James Williams made a quilt in 1842 which is housed at St Fagans in Cardiff. It is known as the Wrexham Tailor’s Quilt and took over 10 years to make from 4,500 pieces of wool cloth, possibly from military uniforms. It has geometric styles with spirals, leaves hearts and motifs and more which give some wonderful imagery of the world as James Williams saw it.
The Wrexham Tailor’s Quilt was exhibited at Wrexham County Borough Museum between May and November 2017.
With grateful thanks to Wrexham Museum for Welsh translation
Click on image to see in detail
The World Around Me
by Barbara Harrison Challenge winner |
The World Around Me
Having studied the Wrexham Tailor’s quilt, I was impressed by the colours used and the geometric designs. In my piece, I used Oakshott fabrics which reflected the subtle shades of the original quilt and attempted to emulate some geometric shapes for the background. I live in Cheshire, which has wonderful transport links – rivers, railways, bridges and motorways. I have tried to portray these links, together with symbols of the Roman heritage and Tudor and Victorian architecture found in this area. The face of the Cheshire Cat is a reference to Cheshire author, Lewis Carroll’s book ‘Alice’s Adventures in Wonderland’. Y Byd o’m cwmpas Ar ôl astudio cwilt Teiliwr Wrecsam, cefais fy mhlesio gan y lliwiau a ddefnyddiwyd a'r dyluniadau geometrig. Yn fy narn, defnyddiais ffabrigau Oakshott a oedd yn adlewyrchu arlliwiau ysgafn y cwilt gwreiddiol a cheisiais efelychu rhai siapiau geometrig ar gyfer y cefndir. Rwy’n byw yn Sir Gaer, sydd â chysylltiadau cludiant bendigedig - afonydd, rheilffyrdd, pontydd a thraffyrdd. Rwyf wedi ceisio cyfleu’r cysylltiadau hyn, ynghyd â symbolau’r dreftadaeth Rufeinig a'r bensaernïaeth Tuduraidd a Fictoraidd sydd i’w cael yn yr ardal hon. Mae ffasâd y Gath Sir Gaer yn gyfeiriad at lyfr yr awdur o Sir Gaer, Lewis Carroll ‘Alice’s Adventures in Wonderland’. |
Yr Olygfa
Inspiration for this quilt came from not The World Around Me but before me. I saw the poppies growing on disturbed ground from my farm/landfill site office window a couple of summers ago. The distant sea above the yellow field which had just been harvested for silage. Working small was a challenge which as it turned out I enjoyed, I intend having another go soon! I made the flowers using a new technique to me, free machining onto Sulky soluble. Yr Olygfa Daeth yr ysbrydoliaeth ar gyfer y cwilt hwn, nid o’r Byd o’m Cwmpas ond o’m blaen. Gwelais y pabïau yn tyfu ar dir wedi'i aflonyddu o ffenestr fy fferm / swyddfa safle tirlenwi ychydig hafau yn ôl. Y môr yn y pellter uwch ben y cae melyn a oedd newydd ei gynaeafu am silwair. Roedd gweithio ar raddfa fechan yn her y gwnes ei mwynhau fel y digwyddodd pethau, rwy’n bwriadu rhoi cynnig arall arni’n fuan! Creais y blodau gan ddefnyddio techneg newydd i mi, gwnïo rhydd â pheiriant ar Sulky hydawdd. |
Yr Olygfa
by Gwenfai Rees Griffiths
Challenge 2nd place
by Gwenfai Rees Griffiths
Challenge 2nd place
All Stitched Up
by Judy Fairless Challenge 3rd place |
All Stitched Up
My husband and I love hillwalking. The silhouettes are he and I walking, traced from two photos and the trees are inspired by those found on an Ordnance Survey map key. I scanned a bit of an O.S. map for my background and printed it onto inkjet cotton. I made stencils of the figures, the trees and the zigzag hills and sponged through the stencils with fabric paints. The colour palette was taken from the original Tailor’s Quilt and the check pattern at the bottom and the zigzags were also a nod to the same. Y Cyfan Wedi’i Bwytho Mae fy ngŵr a minnau wrth ein boddau’n cerdded mynyddoedd. Mae’r silwetau ohono o'r ddau ohonom yn cerdded, wedi eu trasio o ddau ffotograff ac mae'r coed wedi eu hysbrydoli gan y rhai sydd i'w cael ar allwedd map yr Arolwg Ordnans. Sganiais ychydig o fap O.S. ar gyfer fy nghefndir a’i argraffu ar gotwm jet inc. Creais stensiliau o’r ffigurau, y coed a’r bryniau igam-ogam a defnyddiais sbwng drwy'r stensiliau gyda phaent ffabrig. Cymerwyd y palet lliw o gwilt gwreiddiol y Teiliwr ac roedd y patrwm siec ar waelod y llinellau igam-ogam hefyd yn gyfeiriad at yr un peth. |
My Patch - Ynys Mon
by Liesbeth Williams Challenge Highly Commended |
My Patch - Ynys Mon
The Menai Suspension bridge linking the Isle of Anglesey with mainland Wales was completed in 1826, just sixteen years before the Wrexham Tailor's quilt was made. The bridge must have been a wonder then, and still is today. I live nearby, and often see cormorants spreading their wings on the rocks beneath the bridge. The silhouette of the bird mirrors that of the black 'panther' in the quilt. I used scraps of fabrics that I have printed or painted to make it my own, as the tailor must have used off-cuts from his work. Fy Mhatshyn –Ynys Môn Darn Pont Grog ar gyfer arddangosfa cwilt Teiliwr Wrecsam Cwblhawyd Pont Menai sy’n cysylltu Ynys Môn a thir mawr Cymru ym 1826, dim ond un ar bymtheg o flynyddoedd cyn i gwilt Teiliwr Wrecsam gael ei greu. Mae’n rhaid bod y bont yn rhyfeddod bryd hynny, ac mae’n dal i fod heddiw. Rwy’n byw gerllaw, ac yn aml yn gweld bilidowcar yn lledu eu hadenydd ar y creigiau o dan y bont. Mae silwét yr aderyn yn debyg i un y ‘panther’ du ar y cwilt. Defnyddiais sgrapiau o ffabrig yr wyf wedi eu hargraffu neu eu paentio i greu fy un i, ac mae'n rhaid bod y teiliwr wedi defnyddio toriadau o'i waith. |
Cats Around Me
by Maureen Poole Challenge Highly Commended |
Cats Around Me
There have almost always been cats in my life. From the tabby kitten brought to a seven-year-old by my Sunday School teacher, to the two which my granddaughter Amy owns now. Two were strays, one had three kittens, the other, a friendly odd-eyed white one was deaf. A tabby brother and sister were left on the doorstep! I have used a variety of fabrics, cotton, linen, silk, synthetic, velvet and faux suede, embellished with Markal sticks and acrylic paint. Cathod o’m cwmpas i Mae cathod bob amser wedi bod yn fy mywyd. O’r gath fach frech a roddwyd i ferch fach saith mlwydd oed gan fy athro Ysgol Sul, i’r ddau y mae fy wyres Amy yn berchen arnynt rŵan. Roedd dau yn rai strae, cafodd un dair o gathod bach, roedd y llall, cath gyfeillgar wen ag un llygad yn fyddar. Gadawyd brawd a chwaer brych ar y stepen drws! Rwyf wedi defnyddio amrywiaeth o ffabrigau, cotwm, lliain, sidan, synthetig, felfed a swêd ffug wedi’i addurno â ffyn Markal a phaent acrylig. |
My Garden in Bloom
The inspiration for my piece of work is from a photograph taken from my garden last summer and I have made the flowers with bondaweb backed by another fabric to give a 3D effect. The background is from hand-dyed fabric as are some of the fabrics I have used. It is work made locally in this area. Fy Ngardd yn ei Blodau Daw’r ysbrydoliaeth ar gyfer fy narn o waith o ffotograff a gymerwyd o fy ngardd yr haf diwethaf ac rwyf wedi creu’r blodau gyda bondaweb gyda ffabrig arall yn gefn iddo er mwyn rhoi effaith 3D. Mae’r cefndir o ffabrig a liwiwyd â llaw fel y mae rhai o’r ffabrigau rwyf wedi eu defnyddio. Mae’n waith a wnaed yn lleol yn yr ardal hon. |
My Garden in Bloom
by Jan Jones
by Jan Jones
Memories
I decided to make a small piece showing the Taj Mahal which will be a memory of mine forever with the visit being part of my efforts to visit lots of places in the world. I went there with three friends, all female and we had a wonderful time being taken round The Golden Triangle in luxury. We also visited a tiger reserve and saw four tigers, which was a great experience although I decided a tiger was too difficult to represent in fabric for me. Atgofion Penderfynais wneud darn bach yn dangos y Taj Mahal a fydd yn atgof i mi am byth gyda’r ymweliad yn rhan o’m hymdrechion i ymweld â nifer o leoedd yn y byd. Mi es yno gyda thri chyfaill, pob un yn ferched a chawsom amser bendigedig yn cael ein tywys o amgylch y Triongl Euraidd mewn moethusrwydd. Gwnaethom hefyd ymweld â gwarchodfa deigrod a gwelais bedwar teigr, a oedd yn brofiad gwych er i mi benderfynu ei bod yn rhy anodd i mi gyfleu teigr ar ffabrig. |
Memories
by Judith Davy
by Judith Davy
An English Quilter's Quilt
by Linda Bilsborrow |
An English Quilter's Quilt
The things that inspired me the most in the Wrexham Tailor’s Quilt were the complexity of the background and the variety of items in the foreground. Having left myself with little time to make a quilt I decided to use my other hobby, the computer, to combine all the elements I needed. I created a computer collage of quilts that had either been displayed previously at Quiltfest in Llangollen or were dear to me. I then added images of important quilting tools on different layers in my photo software and printed the final collage on to fabric. The piece was then machine quilted and bound to create a piece that has lots of personal meaning just as I hope the Wrexham Tailor achieved with his quilt. Cwilt gan Gwiltiwr Seisnig Y pethau a ysbrydolodd fi fwyaf yng Nghwilt Teiliwr Wrecsam oedd cymhlethdod y cefndir ac amrywiaeth yr eitemau yn y blaendir. Ar ôl gadael ychydig amser i’m hun i greu cwilt, penderfynais ddefnyddio fy niddordeb arall, y cyfrifiadur, i gyfuno'r holl elfennau oedd eu hangen arnaf. Creais gollage cyfrifiadurol o’r cwiltiau oedd naill ai wedi eu harddangos o’r blaen yn y Quiltfest yn Llangollen neu a oedd yn annwyl i mi. Yna ychwanegais ddelweddau o offer cwiltio pwysig ar wahanol haenau yn fy meddalwedd ffotograffau ac argraffais y collage terfynol ar ffabrig. Yna cafodd y darn ei gwiltio â pheiriant a’i rwymo i greu darn sydd â llawer o ystyr personol i mi, fel rwy’n gobeithio y cyflawnodd Teiliwr Wrecsam gyda’i gwilt. |
The Warrior or Homeland
My quilt shows the colliery from the village I was born and grew up in. The whole village was involved in the colliery – my grandfather and cousins working there and my father the M.O. there. The closure of the pit was devastating but my memories of that time are wonderful -- hence the quilt. Y Rhyfelwr neu’r Famwlad Mae fy nghwilt yn dangos pwll glo’r pentref lle cefais fy ngeni a’m magu. Roedd gan yr holl drigolion gysylltiad â’r pwll glo – roedd fy nhaid a’m cefndryd yn gweithio yn y pwll glo ac roedd fy nhad yn swyddog meddygol yno. Roedd cau’r pwll yn ddifrodus iawn ond mae gennyf atgofion melys o’r cyfnod – a dyna pam rydw i wedi gwneud y cwilt yma. |
The Warrior or Homeland
by Margaret Leitch
by Margaret Leitch
The Aberdeen Tailor
My Grandfather, James Milne, born in 1870, was a tailor with a Highland Regiment. He came to live with us in 1950 and brought with him a love of fabric and sewing which he passed onto me. Thank you Grandad x He died in 1970 having received his telegram from the Queen. Teiliwr Aberdeen Roedd fy Nhaid, James Milne, gannwyd 1870, yn deiliwr gyda Chatrawd yr Ucheldir. Daeth i fyw gyda ni yn ym 1950 a daeth gyda fo gariad at ffabrig a gwnïo, a throsglwyddodd hynny i mi. Diolch Taid x Bu farw ym 1970 ar ôl derbyn ei delegram gan y Frenhines. |
The Aberdeen Tailor
by Gill Young
by Gill Young
My Love for Quilts and West Wales
After studying the Wrexham Tailor’s quilt I loved the combination of small patchwork and appliqué. Small hexagons came to mind and the design quickly grew into the finished piece showing my love of quilts and Wild West Wales. I was able to achieve both the small patchwork and appliqué using various cotton fabrics and, of course, it was hand stitched. Fy nghariad tuag at Gwiltiau a Gorllewin Cymru Ar ôl astudio cwilt Teiliwr Wrecsam, roeddwn wrth fy modd â’r cyfuniad o glytwaith bychan ac appliqué. Daeth hecsagonau bach i fy meddwl a thyfodd y dyluniad yn sydyn i’r darn gorffenedig gan ddangos fy nghariad at gwiltiau a Gwylltineb Gorllewin Cymru. Llwyddais i gyflawni’r clytwaith bychan a'r appliqué gan ddefnyddio amryw o ffabrig cotwm ac, wrth gwrs, cafodd ei bwytho â llaw. |
My Love for Quilts and West Wales
by DeAnne Hartwell Jones
by DeAnne Hartwell Jones
The World of My Garden
by Margie Jenkins |
The World of my Garden
As I grew up I learned to knit, crochet, tat, dress make and embroider. I always had a needle of some sort in my hands! As an adult I did more embroidery, learning a variety of traditional and contemporary techniques. In the late 80’s I was introduced to quilting and began another textile journey, which continues to this day. All of this was alongside a career in education. My City and Guilds is in Patchwork and Quilting. I am very involved in The Quilters’ Guild of the British Isles, and am indebted to that organisation for the inspiration, teaching and friendships that support my creative journey. There were three starting points for my response to this quilt: the naïve style, the use of wool and the title “My World…” I enjoy doing wool appliqué with stitch embellishment, and my enjoyment of the garden seemed like a good vehicle to explore the techniques. While the original quilt was fairly controlled in the use of colour, I wanted a brighter response, hence the cheery flowers and colourful bugs (which to tend to enjoy my garden as well!) You can see my background in both embroidery and quilting put to use. Hand appliqued, stitched and quilted with a wool wadding. Byd fy Ngardd Wrth i mi dyfu i fyny dysgais weu, crosio, tatio, creu gwisgoedd a brodio. Roedd bob amser gen i ryw fath o nodwydd yn fy nwylo! Fel oedolyn, gwnes fwy o frodwaith, gan ddysgu amryw o dechnegau traddodiadol a chyfoes. Ddiwedd yr 80au, cefais fy nghyflwyno i gwiltio a dechrau ar daith decstilau arall, sy’n parhau hyd heddiw. Roedd y cyfan yn cyd-fynd â gyrfa mewn addysg. Fy nghymhwyster City and Guilds mewn Clytwaith a Chwiltio. Rwy’n weithgar iawn o fewn Urdd Cwiltwyr Ynysoedd Prydain, ac rwy’n ddyledus i’r sefydliad am yr ysbrydoliaeth, addysg a’r cyfeillgarwch sy’n cefnogi fy nhaith greadigol. Roedd tri man cychwyn ar gyfer fy ymateb i’r cwilt hwn: yr arddull diniwed, y defnydd o wlân a’r teitl “Fy Myd...” Rwy’n mwynhau appliqué gyda phwythau gwlân, ac roedd fy mwynhad o’r ardd yn ymddangos i fod yn gerbyd da i archwilio’r technegau. Er bod y cwilt traddodiadol yn gymharol o dan reolaeth yn y defnydd o liw, roeddwn eisiau ymateb mwy llachar, dyna pam fy mod wedi cynnwys blodau llawen a llau lliwgar (sydd hefyd yn dueddol o fwynhau fy ngardd hefyd!) Gallwch weld fy mod yn defnyddio fy nghefndir mewn brodwaith a chwiltio. Pwythwyd, cwiltiwyd ac ychwanegwyd appliqué â llaw gyda wadin gwlân. |
View From My Kitchen Window
by Merrill Tanton |
View From my Kitchen Window
I am blessed that I live in a quiet country area with fields surrounding me on all sides. As I look out of my kitchen window a variety of birds and mammals visit for water and food all year round. James Williams, the tailor, reflected the world as he imagined it. I am lucky that my view of the world is exactly as my design shows. What could be better? I created the original landscape using scraps of fabric and free motion machining, I inkjet printed the images of birds. More detail was achieved with acrylic paints, moldable stamps and hand-drawn colour work. Beading added the water detail as the blackbirds washed their feathers in the sun. Golygfa o ffenestr fy nghegin Rwy’n ffodus fy mod yn byw mewn ardal wledig ddistaw gyda chaeau’n fy amgylchynu ar bob ochr. Pan rwy’n edrych drwy ffenestr y gegin mae amrywiaeth o adar a mamaliaid yn ymweld am ddŵr drwy gydol y flwyddyn. Roedd James Williams, y teiliwr, yn adlewyrchu ar y byd fel yr oedd yn ei ddychmygu. Rwy’n ffodus fod fy ngolygfa o'r byd yn union fel y mae fy nyluniad yn ei ddangos. Beth allai fod yn well? Creais y tirlun gwreiddiol gan ddefnyddio sgarpiau o ffabrig a gwaith peiriant symudiad rhydd, argraffais ddelweddau o adar gydag argraffydd jet inc. Cyflawnais fwy o fanylion gyda phaentiau acrylig, stampiau y gellir eu moldio a gwaith lliw a ddarluniwyd â llaw. Ychwanegodd y gleiniau fanylder y dŵr wrth i adar duon olchi eu plu yn yr haul. |
Uzbek Tile
by Megan Barley |
Uzbek Tile
Following a visit to Uzbekistan I was inspired by the wonderful buildings covered in beautiful blue tiles, as the maker of the Wrexham Quilt was inspired by places he had visited. This piece is constructed using machined reverse appliqué, and 100% fabric that has been hand dyed. Teil Wsbecistan Yn dilyn ymweliad ag Wsbecistan, cefais fy ysbrydoli gan yr adeiladau bendigedig wedi eu gorchuddio â theils glas prydferth, fel y cafodd gwneuthurwr Cwilt Wrecsam ei ysbrydoli gan y lleoedd yr ymwelodd â nhw. Adeiladwyd y darn gan ddefnyddio appliqué croes gyda pheiriant, a 100% o ffabrig wedi ei liwio â llaw. |
My Favourite Place - The Lycian Way
by Deryn Richardson |
My Favourite Place - The Lycian Way
I believe the Lycian way in southern Turkey is one of the most amazing places in the world, even after more than 25 years of visiting the area. Its magnificent countryside delights me. The tombs and fortifications are steeped in Lycian history. The Persian general Harpagos marched his army along the same route 2,500 years ago during his attempt to take over the ancient world. Fy hoff le, Ffordd Lyciaidd Rwy’n credu mai ffordd Lyciaidd yn ne Twrci yw un o’r lleoedd mwyaf anhygoel yn y byd, hyd yn oed ar ôl ymweld â’r ardal am fwy na 25 mlynedd. Mae ei gefn gwlad fendigedig yn rhoi pleser i mi. Mae’r beddrodau a’r caerau yn llawn hanes Lyciaidd. Martsiodd y cadfridog Persiaidd Harpagos ei fyddin ar hyd yr un llwybr 2,500 o flynyddoedd yn ôl yn ystod ei ymgais i reoli’r hen fyd. |
Preserving a Welsh Treasure
I was inspired by the beauty and tranquillity of the Pin Mill at Bodnant Gardens. This led me to create the piece. Volunteering at Bodnant for several years now continues to give me immense pleasure and inspiration. Cynnal trysor Cymreig Cefais fy ysbrydoli gan harddwch a llonyddwch y Pin Mill yng Ngerddi Bodnant. Arweiniodd hyn at i mi greu’r darn. Mae gwirfoddoli yng Ngardd Bodnant ers sawl blynedd bellach yn dal i roi pleser ac ysbrydoliaeth aruthrol i mi. |
Preserving a Welsh Treasure
by Janet Arnold
by Janet Arnold
Jump
by Helen Lloyd |
Jump
The inspiration for this piece was a favourite photograph of my two sons, on holiday in Anglesey. Although the weather was not kind to us they were jumping in the sea and playing on the beach with gusto! The fabrics I used were some antique lace, part of an old dress and red cotton and silk. I added beads for texture and a bit of interest. The style and colour used were influenced by the Wrexham Tailor's Quilt. Neidio Yr ysbrydoliaeth ar gyfer y darn hwn oedd fy hoff ffotograff o fy nau fab, ar wyliau ar Ynys Môn Er na fu’r tywydd yn garedig i ni, roeddent yn neidio i’r môr ac yn chwarae ar y traeth gydag afiaith! Y ffabrigau a ddefnyddiais oedd rhywfaint o les hynafol, rhan o hen wisg a chotwm coch a sidan. Ychwanegais leiniau i roi gwead ac ychydig o ddiddordeb. Dylanwadwyd ar yr arddull a’r lliw a ddefnyddiwyd gan Gwilt Teiliwr Wrecsam |
The World is Getting Smaller
by Janet Keenan |
The World is Getting Smaller
Every place mentioned on this small piece is somewhere I have visited in the last few years. I take it so much for granted that I can travel and see the wider world with relative ease. My life is enriched by travel and the feeling of being part of a bigger community. The symbols are significant to each city. I chose to do red work as it is a traditional form of stitchery to contrast with the modern way of travel. Mae’r Byd yn Mynd yn Llai Mae pob man a grybwyllir ar y darn bach hwn yn rhywle rwyf wedi ymweld ag o dros y blynyddoedd diwethaf. Rwy’n ei gymryd mor ganiataol fy mod yn gallu teithio a gweld y byd ehangach yn eithaf rhwydd. Mae fy mywyd yn cael ei gyfoethogi gan deithio a'r teimlad fy mod yn rhan o gymuned ehangach. Mae’r symbolau’n arwyddocaol i bob dinas. Dewisais wneud gwaith coch gan ei fod yn fath traddodiadol o bwytho fel cyferbyniad gyda'r modd modern o deithio. |
A Few of My Favourite Things
by Jacky Hooton |
A Few of My Favourite Things
My inspiration for this quilt was an amazing three week holiday travelling from North to South Island, New Zealand, in a campervan. I used fabrics to show the colours of the countryside and the sheep from one area we visited at the base of Mount Cook. Rhai o’m hoff bethau Fy ysbrydoliaeth ar gyfer y cwilt hwn oedd gwyliau anhygoel tair wythnos o hyd yn teithio o Ynys y Gogledd i Ynys y De, Seland Newydd, mewn cerbyd gwersylla. Defnyddiais ffabrigau i ddangos lliwiau cefn gwlad a’r defaid o un ardal yr ymwelom â hi ar waelod Mynydd Cook. |
Winter Garden
by Nicky Barrie |
Winter Garden
I dyed a piece of rough silk using plants from the garden as a natural dying process. I am a keen gardener and it's interesting to find out how many ordinary plants can be used as dye sources. You can easily see the Rose leaf and there's some turmeric making the mustard colours Then a small piece of appliqué and simple machine quilting It has a wintry feel and muted colours in keeping with the underlying natural dye. I normally make large bed sized quilts so found such a small piece very strange! Gardd Aeaf Lliwiais ddarn o sidan garw gan ddefnyddio planhigion o’r ardd fel rhan o broses liwio naturiol. Rwy’n arddwr brwd ac mae’n ddiddorol i ddarganfod faint o blanhigion arferol y gellir eu defnyddio fel ffynonellau lliwio. Mae’n hawdd i chi weld y ddeilen Rosyn ac mae’r lliwiau mwstard wedi cael eu creu gyda thyrmerig Yna mae darn bychan o appliqué a chwiltio syml â pheiriant Mae teimlad gaeafol iddo a lliwiau llai llachar sy’n cyd-fynd â’r lliwur naturiol sy’n sail iddo Rwyf fel arfer yn creu cwiltiau mawr ar gyfer gwlâu felly roedd yn rhyfedd iawn gwneud darn mor fach! |
Window on the World
by Lesley Webb |
Window on the World
Inspiration came from living in beautiful North Wales. Not quite the view from my window, but nearly! The method was a simple way of joining squares together, particularly small ones. A grid was drawn on to thin vilene, the squares arranged on the grid, making sure there are no gaps. Then they are lightly glued in place and the seams joined in rows. Some at an angle for shaping, it is an easy way to do this sort of thing. There is some quilting and additional stitching to add texture, and finally some butter-flies to give it more life. Ffenestr i’r Byd Daeth yr ysbrydoliaeth o fyw ym mhrydferthwch Gogledd Cymru. Nid yn union yr olygfa o’m ffenestr, ond bron iawn! Roedd y dull yn fodd syml o uno sgwariau gyda’i gilydd, yn enwedig rhai bychan. Lluniwyd grid ar vilene tenau, y sgwariau wedi eu trefnu ar y grid, gan sicrhau nad oes unrhyw fylchau. Yna maent wedi eu gludo’n ysgafn yn eu lle a’r semau wedi eu huno mewn rhesi. Rhai ar ongl ar gyfer siapio, mae’n ffordd hawdd o wneud y math hwn o beth. Mae rhywfaint o gwiltio a phwytho ychwanegol i ychwanegu gwead, ac yn olaf rhywfaint o loÿnnod byw i roi mwy o fywyd iddo. |
Who I Am - a Broxton Quilter's Quilt
by Susan Hastings-Winch |
Who I Am - A Broxton Quilter
This little quilt is about my world – my origins and who I am now. I tried to echo the colours and patterns of the Wrexham Tailor’s Quilt. The large borders suggesting patch-work and quilting patterns reflect the part the Quilters Guild has played in my life since 1980. Southampton Bargate and Chester Eastgate are about family origins. My husband is a Cestrian. And the three figures are our small family. The rather depressing world we live in is black, but surrounded by bright spots which are my worldwide friends. I had pen friends from an early age and was always curious about the rest of the world. These circles have a second meaning. I realised they reminded me of the hours I had spent at work looking down a microscope at blood cells! Other content reflects my interests in nature, wildlife and gardening. We regularly have buzzards flying over our house. Also, a camera is the lifelong interest in photography shared by our family. My son now enjoys it professionally. Footprints and a path are my love of walking. Finally, we have a moon which, to me, suggests freedom, dreaming, mystery and the wonders of the universe. Pwy ydw i – Cwilt gan Gwiltiwr Broxton Mae’r cwilt bach hwn yn sôn am fy myd – fy ngwreiddiau a phwy ydw i rŵan. Ceisiais adleisio lliwiau a phatrymau Cwilt Teiliwr Wrecsam. Mae’r borderi mawr yn awgrymu clytwaith ac mae’r patrymau cwiltio yn adlewyrchu’r rhan y mae Urdd y Cwiltwyr wedi ei chwarae yn fy mywyd ers 1980. Mae Bargate, Southampton ac Eastgate, Caer yn cyfeirio at wreiddiau fy nheulu. Mae fy ngŵr o Gaer. A’r tri ffigwr bach yw ein teulu bach. Mae’r byd eithaf digalon rydym yn byw ynddo yn ddu, ond wedi ei amgylchynu gan fannau o oleuni, sef fy ffrindiau byd-eang. Roedd gen i gyfeillion gohebol o oed cynnar ar roeddwn bob amser yn chwilfrydig am weddill y byd. Mae ail ystyr i’r cylchoedd hyn. Sylweddolais eu bod yn fy atgoffa o’r oriau roeddwn wedi eu treulio yn y gwaith yn edrych drwy ficrosgop ar gelloedd gwaed! Mae cynnwys arall yn adlewyrchu fy niddordeb mewn natur, bywyd gwyllt a garddio. Mae bwncathod yn hedfan dros ein tŷ yn rheolaidd. Hefyd, y camera yw’r diddordeb oes gyfan mewn ffotograffiaeth a rennir gan ein teulu. Mae fy mab yn ei fwynhau’n broffesiynol. Yr olion troed a’r llwybr yw fy nghariad at gerdded. Yn olaf, mae gennym leuad sydd, i mi, yn awgrymu rhyddid, breuddwydio, dirgelwch a rhyfeddodau’r bydysawd. |
What a Busy Life I Lead
by Anne Gosling |
What a Busy Life I Lead!
My interpretation of the challenge “The world around me” set me thinking about what I have going on in my own life. The idea of the black and red squares came from the Wrexham Tailor’s Quilt and represent my Welsh heritage. In my day job, I am a maths graduate and Chartered Accountant which allowed me to become the treasurer and a trustee of The Quilters’ Guild, an enjoyable role which currently takes most of my time. As treasurer of several other organisations you may see me counting money at various events, hence the money bag! I have a passion for music and have been trying to play the piano for many years. Most Thursdays you will find me on the golf course at Reddish Vale in Stockport. In my quilting life, my favourite techniques are hand appliqué and hand quilting and wherever I go, my stitching goes with me. After all that, at the end of the week, my husband and I love to chill out at our cottage near Corwen in North Wales. When I started to contemplate the challenge, I didn’t realise how much it is possible to include in an A4 piece or in my life for that matter! Yn does gen i fywyd prysur! Gwnaeth fy nehongliad o’r her “Y byd o’m cwmpas” i mi feddwl ynglŷn â beth sy’n digwydd yn fy mywyd fy hun. Daeth y syniad o sgwariau du a choch o Gwilt Teiliwr Wrecsam ac maent yn cynrychioli fy nhreftadaeth Gymreig. Yn fy ngwaith o ddydd i ddydd, graddiais mewn mathemateg ac rwy’n Gyfrifydd Siartredig a wnaeth fy nghaniatáu i fod yn drysorydd ac yn un o ymddiriedolwyr Urdd y Cwiltwyr, swydd rwy’n ei mwynhau ac sy’n cymryd y rhan fwyaf o fy amser. Fel trysorydd ar sawl sefydliad arall, efallai y byddwch yn fy ngweld yn cyfrif arian mewn amryw o ddigwyddiadau, sy’n egluro’r bag arian! Rwy'n angerddol am gerddoriaeth ac rwyf wedi bod yn ceisio chwarae’r piano ers sawl blwyddyn. Y rhan fwyaf o ddyddiau Iau byddwch yn dod o hyd i mi ar y cwrs golff yn Reddish Vale yn Stockport. Yn fy mywyd fel cwiltiwr, fy hoff dechnegau yw applique â llaw a chwiltio â llaw a ble bynnag rwy’n mynd, mae fy ngwaith pwytho yn mynd gyda mi. Ar ôl gwneud hynny i gyd, ar ddiwedd yr wythnos, rydw i â’m gŵr wrth ein boddau’n ymlacio yn ein bwthyn ger Corwen yng Ngogledd Cymru. Pan ddechreuais feddwl am yr her, wnes i ddim sylweddoli faint y mae modd ei gynnwys mewn darn A4 neu yn fy mywyd o ran hynny! |
Mawddach Sunrise
by Mary Munday |
Mawddach Sunrise
I live on the Mawddach estuary with a view across to Cader Idris — water, mountains, sky and stunning sunrises. Taking inspiration from the zig-zag of the Tailor’s Quilt I wanted to depict the vibrant lay-ers and colours that I look out onto every day. I therefore used small scraps of cotton and the traditional method of piecing over cut out hexagon papers. Each piece of fabric is different and is sewn together by hand using invisible thread (dreadful to work with). As I travel a lot it was good to have hand work to accompany me. However I quilt-ed with the machine and used a few beads to add the sparkle to indicate the sunrays emerging from behind the mountains. Codiad Haul y Mawddach Rwy’n byw ar foryd y Mawddach gyda golygfa ar draws Cader Idris – dŵr, mynyddoedd, awyr a'r haul yn codi’n fendigedig. Gan ddwyn ysbrydoliaeth o igam-ogam Cwilt y Teiliwr, roeddwn eisiau portreadu’r haenau a’r lliwiau llawn bywyd rwy’n edrych arnynt bob dydd. Felly defnyddiais sgrapiau bach o gotwm a’r dull traddodiadol o ddarnio dros bapurau hecsagon wedi eu torri. Mae pob darn o ffabrig yn wahanol ac wedi eu gwnïo ynghyd gyda llaw gan ddefnyddio edefyn anweledig (anodd eithriadol i weithio gydag o). Gan fy mod yn gwneud llawer o deithio, roedd yn dda i gael gwaith llaw i fynd gyda mi. Fodd bynnag, cwiltiais gyda’r peiriant a defnyddio ychydig o leiniau i ychwanegu disgleirdeb i ddangos pelydrau’r haul yn dod i’r golwg o’r tu ôl i’r mynyddoedd. |
The World Around Me
When interpreting the title of the piece, I saw this fabric of the world, and decided to do a 'tongue-in-cheek' piece of 'The World Around Us' Y Byd o’m cwmpas Wrth ddehongli teitl y darn, gwelais y ffabrig hwn o’r byd, a phenderfynais wneud darn ‘tafod yn y boch’ o ‘Y Byd o’n Cwmpas' |
The World Around Me
by Maureen Crawford
by Maureen Crawford
The Important Things (Its Not All Work!)
by Karen Hurrell |
The Important Things (Its Not All Work)
Working full-time, sometimes it feels like my world is limited to a desk and a computer. So I have put reminders of the things that are important to me on the board behind my desk: my cats, my partner (with his paraglider), our garden, some of my textile work, and holiday photos. Then one of my cats crept onto the desk too (as they so often do). The picture was built up using fused, raw-edge appliqué, with the photos printed directly onto fabric, and details added with machine and hand stitching. Y pethau pwysig (Nid gwaith yw popeth) Pan rwy’n gweithio’n llawn amser, mae weithiau’n teimlo bod fy myd wedi ei gyfyngu i ddesg a chyfrifiadur. Felly rwyf wedi rhoi nodiadau i atgoffa fy hun o'r pethau sy'n bwysig i mi ar y bwrdd y tu ôl i'm desg: fy nghathod, fy mhartner (gyda’i bara-gleidiwr), ar ardd, rhywfaint o’m gwaith tecstilau, a lluniau gwyliau. Yna aeth un o’m cathod ar y ddesg hefyd (fel y maen nhw’n gwneud yn aml). Cafodd y llun ei adeiladu gan ddefnyddio appliqué ymasiedig, gydag ymylau garw, gyda’r lluniau wedi eu hargraffu’n uniongyrchol ar ffabrig, a manylion wedi eu hychwanegu gan bwytho peiriant a llaw. |
View From My Garden
by Brenda Otter |
View From My garden
I have used a crazy patchwork technique with machine quilting on cotton fabric, and Welsh wool cloth for the wadding. My idea was based on what I can see from our back garden – our house backs onto a park. From there we can see the sea, wind turbines, the motorway, a small industrial park, the railway and the park which is used extensive-ly by the people in our community. There are 3 rugby pitches, 2 ponds — 1 with a pair of swans on it, lots of trees and birds, and there are many dogs and their owners that walk through here every day. There’s always something happening — a window on a small part of my world. Golygfa o’m Gardd Rwyf wedi defnyddio techneg clytwaith gwallgof gyda chwiltio â pheiriant ar ffabrig cotwm, a brethyn gwlân Cymreig ar gyfer y wadin. Roedd fy syniad yn seiliedig ar yr hyn y gallaf ei weld o’m gardd gefn – mae ein tŷ yn cefnu ar y parc. O fan hynny, gallwn weld y môr, tyrbinau gwynt, y draffordd, parc diwydiannol bach, y rheilffordd a’r parc sy’n cael ei ddefnyddio’n helaeth gan bobl yn ein cymuned. Mae 3 maes rygbi, 2 lyn — 1 gyda phâr o elyrch arno, llawer o goed ac adar, ac mae sawl ci a’u perchnogion sy’n cerdded drwodd bob dydd. Mae rhywbeth yn digwydd o hyd — ffenestr ar ran fechan o’m byd. |
My Pets and Other Animals
by Brenda Barker |
My Pets and Other Animals
The inspiration for this quilt came from my love of the countryside and animals. The background was paper pieced on honeycomb shaped pieces. The foreground of appliquéd animals was a reflection of my favourite pet mix of one cat and two dogs. Although I only have one of each at the moment. Fy anifeiliaid anwes ac anifeiliaid eraill Daeth yr ysbrydoliaeth ar gyfer y cwilt hwn o’m cariad at gefn gwlad ac anifeiliaid. Roedd y cefndir yn ddarnau o bapur ar ddarnau siâp crwybr. Roedd y blaendir o anifeiliaid o appliqué yn adlewyrchiad o’m hoff gymysged o anifeiliaid anwes sef un gath a dau gi. Er mai dim ond un o bob un sydd gen i ar hyn o bryd. |
Eden
by Moragh Bradshaw |
Eden
We have a superb view from our house of Traeth Bach, the estuary of the Dwryd, and Ynys Giftan across to Harlech. Our garden with pond and trees are in the foreground. I had prepared the background of a different estuary at a workshop with Richard Box and decided I would not use it as originally intended but that it could be the back-ground for this piece. Next door to us are hens and a cockerel who greets us each morning, sheep and cattle roam fields nearby. An owl tweets us each evening and gulls soar overhead. Our neighbouring farmer hates the local foxes at lambing time. One or two other animals seem to have crept in to keep these company. The pieces are attached with Bondaweb and hand or machine stitching. The name “Eden“ was suggested by a friend when she saw the piece. The backing is old shirt material as I thought this is what a thrifty tailor might have used. Eden O’n tŷ ni, mae gennym olygfa wych o Draeth Bach, moryd y Ddwyryd, ac Ynys Gifftan ar draws tuag at Harlech. Ein gardd, gyda phwll a choed yn y blaendir. Roeddwn wedi paratoi cefndir moryd wahanol yn y gweithdy gyda Richard Box a phenderfynais na fyddwn yn ei ddefnyddio fel y bwriadais yn wreiddiol ond y gallai fod yn gefndir ar gyfer y darn hwn. Drws nesaf i ni, mae ieir a cheiliog sy’n ein cyfarch bob bore, gyda defaid a gwartheg yn crwydro’r caeau gerllaw. Mae tylluan yn trydar arnom bob gyda’r nos a gwylanod yn esgyn uwch ein pennau. Mae’n gas gan y ffarmwr sy’n gymydog i ni'r llwynogod lleol ar adeg wyna. Mae’n ymddangos bod un neu ddau anifail arall wedi cropian i mewn i gadw cwmni i’r rhain. Mae’r darnau wedi eu cysylltu gan Bondaweb a gyda phwythau â llaw neu beiriant. Awgrymwyd yr enw “Eden” gan ffrind pan welodd y darn. Crëwyd y cefnyn o hen ddeunydd crys gan fy mod yn meddwl mai dyma fyddai teiliwr darbodus wedi ei ddefnyddio. |
We Are Part of the Earth and the Earth is Part of Us
by Sue Longley |
We Are part of the Earth and the Earth is Part of Us
I decided that I would use as my inspiration the Native American proverb attributed to Chief Seattle in 1854 when the "Great Chief" in Washington offered to buy the land his tribe lived on. This reads "We are part of the earth and the earth is part of us". To me this symbolises the idea that we should conserve the resources which we have, even though we are in a time of apparent plenty. Once we use up the bounty of the earth it will be gone forever. As Seattle explained "You must teach your children that the ground beneath their feet is the ashes of your grandfathers..... Whatever befalls the earth befalls the sons of the earth. As the quilt was made at a time when pieces of scrap material were used to manufacture beautiful pieces of Art I used this as my template. I decided to use the same back-ground colour and used a piece of hand dyed material to create a view of North Wales. Rydym ni’n rhan o’r ddaear hon ac mae’r ddaear hon yn rhan ohonom ni Penderfynais y byddwn yn defnyddio fel fy ysbrydoliaeth y Ddihareb Americanaidd Frodorol a briodolir i’r Pennaeth Seattle ym 1854 pan gynigiodd y “Pennaeth Mawr” yn Washington brynu’r tir roedd ei lwyth yn byw arno. Ei eiriau oedd “Rydym ni’n rhan o’r ddaear hon ac mae’r ddaear hon yn rhan ohonom ni”. I mi, mae hyn yn symbolaidd o’r syniad y dylem gynnal yr adnoddau sydd gennym, er ein bod mewn cyfnod o ddigonedd ymddangosiadol, unwaith y byddwn yn defnyddio bownti'r ddaear, bydd wedi mynd am byth. Fel yr eglurodd Seattle “Rhaid i chi ddysgu eich plant mai’r ddaear o dan eu traed yw llwch eu teidiau.... Tynged y ddaear fo tynged meibion y ddaear. Gan fod y cwilt wedi ei wneud ar amser pan ddefnyddiwyd metel sgrap i gynhyrchu darnau prydferth o Gelf, defnyddiais hwn fel fy nhempled. Penderfynais ddefnyddio’r un lliw cefndir a defnyddiais ddarnau o ddeunyddiau a liwiwyd â llaw i greu golygfa o Ogledd Cymru. |